Croeso…

Menter ar y cyd rhwng Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys yw Partneriaeth Gwastraff Canolbarth Cymru.
Mae Ceredigion a Phowys yn ymrwymedig i ailgylchu, compostio neu drin â chymaint o wastraff y rhanbarth ag sy’n bosib ac rydym yn gweithio gyda’n gilydd er mwyn cael gafael ar ddulliau cynaliadwy a newydd o ddelio â gwastraff a maint y gwastraff a anfonir i dirlenwi.
Bu Partneriaeth Gwastraff Canolbarth Cymru yn canolbwyntio ar ddelio â gwastraff bwyd a gynhyrchwyd yn y rhanbarth ac y maent yn ddiweddar wedi rhoi contract i Agrivert Ltd ar gyfer darparu gwasanaethau i drin y gwastraff. Gellir cael mwy o wybodaeth am y prosiect trin gwastraff bwyd ar y dudalen caffael.
Mae’r prosiect trin gwastraff bwyd yn rhan o Raglen Caffael Seilwaith Gwastraff Llywodraeth Cymru.
Mae’r partneriaid bellach yn archwilio cyfleodd eraill ar gyfer gweithio gyda’i gilydd yn y maes gwastraff.

Cysylltwch â ni
Ebost: hpw@ceredigion.gov.uk Nodwch ‘Partneriaeth Gwastraff Canolbarth Cymru’ fel pwnc os gwelwch chi’n dda
(01545) 572 572
Gwastraff Canolbarth Cymru, Neuadd y Sir, Heol y Farchnad, Aberaeron, Ceredigion SA46 0AT
Datganiad Hawlfraint © 2018 Cyngor sir Ceredigion – cedwir pob hawl
Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth Genedlaethol Cymru